Colwyn Bay
The first Chemistry at Work for primary children in Wales was held at Colwyn Bay Leisure Centre on 26 January 2006.
Children from local schools were treated to presentations and hands-on activities:
- Welsh Water showed how to make water clean (and teachers found out how to make this process actually ‘work’)
- Andrea Calland invited children to consider the numerous ways that chemistry crops up in their everyday lives, especially in foodstuffs; lots of smelling of herbs
- the Fire Service presentation involved children dressing up in fire-fighters’ safety clothing
- Bangor University had children finding out about colours in sweets and building models.
Children were clearly enthusiastic and were very engaged in all of the presentations, which were targeted at the correct level. They enjoyed the freebies!
Feedback from teachers was hugely positive and they thought the day was both very worthwhile and enjoyable. They want to come back again next year.
The event was very well organised and thanks are due to Careers Wales North West for their time and organisational skills: especially, Claire Burgess, Eluned Jones and Gwenan Roberts.
The next step is to consider organising events in other parts of North West Wales.
Ar Ionawr 26ain 2006, cynhaliwyd y gweithgaredd Cemeg ar Waith cyntaf yng Nghymru ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd yng Nghanolfan Hamdden Bae Colwyn.
Derbyniodd disgyblion dwy ysgol gynradd leol y cyflwyniadau a’r gweithgareddau ymarferol canlynol:
- Dangosodd Bwrdd Dwr Cymru y broses o lanhau dwr (a gwelodd yr athrawon sut oedd modd sicrhau fod y broses hon yn gallu digwydd ar lawr y dosbarth)
- Rhoddodd Andrea Calland y cyfle i ddisgyblion ystyried y gwahanol ffyrdd mae cemeg yn bresennol yn eu bywyd, pob dydd o’r flwyddyn; yn enwedig mewn bwyd (arogli perlysiau)
- Yn ystod cyflwyniad y Frigâd Dân, cafodd y disgyblion y cyfle i wisgo’r dillad diogelwch.
- Bu’r disgyblion yn archwilio’r lliwiau sydd mewn melysion ac yn adeiladu modelau gydag Adran Gemeg, Prifysgol Cymru Bangor.
Roedd y disgyblion wedi ymgolli’n llwyr yn y cyflwyniadau, ac yn amlwg yn mwynhau’n fawr, sy’n brawf fod y cyflwyniadau wedi’u targedu ar y lefel gywir.
Roedd ymateb yr athrawon yn gadarnhaol iawn, a theimlwyd fod y diwrnod yn werth chweil, ac yn rhoi mwynhad i’r disgyblion a hwythau. Maent yn dymuno bod yn rhan o’r gweithgaredd eto y flwyddyn nesaf.
Trefnwyd y diwrnod hynod o lewyrchus gan Gyrfa Cymru Gogledd Orllewin, ac mae’r diolch yn bennaf i Claire Burgess; Eluned Jones a Gwenan Roberts am eu hamser a’u sgiliau trefniadaethol.
Y cam nesaf felly, yw mynd ati i drefnu gweithgareddau yn rhannau eraill o Ogledd Orllewin Cymru.
